Ysgolion
Rydym yn awyddus i gynnig cefnogaeth mewn gweddi a datblygu partneriaethau dysgu gyda'n hysgolion lleol.
Mae Agor y Llyfr yn brosiect cyffrous o gyflwyno straeon Beiblaidd I blant ysgolion cynradd mewn ffordd sy’n hwyl, rhyngweithiol a chofiadwy. Mae tîm Ardal Weinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai yn defnyddio rhaglen Agor y Llyfr, adnodd gan Gymdeithas y Beibl, I baratoi a chyflwyno stori o’r Beibl tua 15-20 funud o hyd, wedi’I sgriptio, I gynulliad yr ysgolion sy’n cynnwys gymaint o blant a phosibl. Mae’r tîm ecwmenaidd yn cynnwys gwirfoddolwyr wedi eu recriwtio’n ddiogel a wedi derbyn hyfforddiant arbennig gan Gymdeithas y Beibl. Yn dilyn yr hyfforddiant maent yn cofrestru fel aelodau yn flynyddol ac yn cadw at y Cod Ymarfer diweddara. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn perfformio mewn 9 ysgol yn fisol, gan gyrraedd tua 500 o blant a dros 30 o staff addysgu.
Rydym yn hapus i hwyluso ymweliadau tywys â'n heglwysi a phosibiliadau ar gyfer gweithdai dysgu sy'n cysylltu â blaenoriaethau'r cwricwlwm, amcanion dysgu neu sy'n cyd-fynd â'n prosiectau a'n blaenoriaethau ein hunain.
Ar hyn o bryd, rydym yn falch o weithio gyda:
