Llanaelhaearn

Eglwys Aelhaearn Sant, Llanaelhaearn LL54 5AE

Gydag eglwys hynafol a ffynnon sanctaidd, mae enw'r pentref Llanaelhaearn yn cofio Sant o'r 7fed ganrif y dywedir iddo gael ei atgyfodi gan Beuno.

Adeiladwyd waliau’r eglwys bresennol yn y 12fed ganrif. Mae'n fach a chlyd ac rydym yn gobeithio ychwanegu cyfleusterau toiled a chegin fel y gallwn gynnig llety syml i bererinion.

Fel Clynnog, mae gan Lanaelhaearn ffynnon sanctaidd a oedd yn fan aros pwysig i'r rhai oedd yn teithio ar hyd llwybr y pererinion i Enlli. Yn anffodus, nid yw ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd.