Clynnog Fawr

St Beuno's Church - Interior

Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr LL54 5PE

Sefydlwyd yr eglwys yng Nghlynnog yn y 7fed ganrif pan roddwyd Clynnog Fawr i Dduw a Beuno gan Gwyddaint fel lle o noddfa am byth.  Yma y sefydlodd Beuno ei 'Clas' – cymuned weddi, dysgu a chenhadaeth.

Credir fod sgriptoriwm yng Nghlynnog Fawr ar un adeg ac mai yma y cafodd chwedlau y Mabinogi eu ysgrifennu i lawr am y tro gyntaf.

Mae'r eglwys ar agor i ymwelwyr bob dydd o'r flwyddyn ac mae'n lle gwych i weddio ac i gael saib bach a lluniaeth ar eich taith.

Hefyd yng Nghlynnog Fawr mae Ffynnon Beuno Sant a Thy'r Pererinion – ficerdy o'r 18fed ganrif sydd bellach yn ganolfan eglwys ac yn fan encilio a lletygarwch i bererinion.