Pererin Wyf
Wnaeth emyn enwog gan William Williams, Pantycelyn, ysbrydoli enw ein trydydd prosiect.
Yn ganolog i weledigaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai yw dyletswydd sanctaidd letygarwch – wrth gynnig a derbyn lletygarwch, dan ni i gyd yn cael ein bendithio a'n newid. Rydym am sicrhau bod profiad gwerthfawr o bererindod yn hygyrch i bawb – waeth beth fo'u cefndir neu amgylchiadau.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae llawer ohonom wedi dod yn bererinion eto – am resymau amrywiol. Mae rhai ohonom eisiau cael saib i ffwrdd o brysurdeb bywyd bob dydd. Mae rhai ohonom wedi dioddef colled neu brofedigaeth. Mae eraill yn wynebu newidiadau eraill - penderfyniad pwysig neu swydd newydd efallai, neu angen myfyrio ar fywyd ar ôl iddyn nhw ymddeol.
Gweledigaeth prosiect Pererin wyf yw datblygu caplaniaeth pererinion gyda chynnig lletygarwch – yn amrywio o lety syml yn ein heglwysi i'r rhai sy'n cerdded y llwybr pererinion, i le iachâd ac encilio i'r rhai sydd angen amser estynedig i ffwrdd.
O ran gwaith adeiladu, bydd hyn yn meddwl gosod cyfleusterau toiledau ac arlwyo mewn tair o'n heglwysi, cwblhau gwaith cynnal a chadw brys yn eglwys hynafol St Beuno a sicrhau ei bod yn fwy hygyrch i ymwelwyr.
Rydym yn bwriadu datblygu lletygarwch ein tŷ eglwys Tŷ'r Pererinion a sefydlu rhwydwaith o ffrindiau enaid, mentoriaid a chwnselwyr gyda rhaglen gaplaniaeth yn ystod misoedd yr haf.
