Croeso
Ein Gweledigaeth
Rydym am fod yn gymuned cymunedau gweddigar, cynhwysol a chyd-cefnogol –
wedi'i hysbrydoli gan ryfeddod ac yn dysgu sut i ddilyn Iesu Grist yn y byd cyfoesol.
Rydym yn stiwardiaid ar chwe lle gweddi hynafol o fewn Esgobaeth Bangor yn yr Eglwys yng Nghymru. Er ein bod yn tynnu ar gyfoeth y traddodiad ysbrydol Anglicanaidd, rydym yn gweithio i bontio rhaniadau hanesyddol a chyfoethogir ein haddoliad gan bresenoldeb Cristnogion enwadau amrywiol. Rydym yn bwriadu gweld ein holl adeiladau, mynwentydd eglwysig a gerddi yn cael eu rheoli'n gynaliadwy ac yn agored ac yn hygyrch i ymwelwyr drwy gydol yr wythnos – yn cael eu defnyddio gyda chreadigrwydd a dychymyg a gwneud cyfraniad sylweddol at ffyniant y cymunedau y maent wedi'u gosod ynddynt. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ofalu am y greadigaeth, dathlu ein treftadaeth Gymraeg a chynnig lletygarwch i bererinion.
Ein Hardal
Wrth ganol ein hardal mae eglwys a chymuned Clynnog Fawr, a sefydlwyd gan Beuno Sant yn y 7fed ganrif. Mae ein lleoliad yn dirwedd o harddwch naturiol eithriadol sy'n ymestyn o Afon Gwyrfai ger Caernarfon yn y gogledd i Bant Glas yn y de, ac o bentref Rhyd Ddu wrth droed yr Wyddfa yn y dwyrain i gopaon triphlyg Yr Eifl yn y gorllewin. Mae Uwch Gwyrfai' yn cyfeirio at y tir ochr arall i'r Gwyrfai o safbwynt y llys canoloesol yn Abergwyngregyn. Mae'n gwmwd hanesyddol sy'n cynnwys hen blwyfi Clynnog, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.
