Llanwnda
Eglwys Gwyndaf Sant, Llanwnda LL54 5UA
Mae cynulleidfaoedd eglwysig plwyfi hynafol Llanwnda a Llandwrog wedi tyfu i fod yn gymuned unedig sy’n addoli yn Eglwys Llandwrog un fis ac yn Eglwys Llanwnda y mis wedyn. Dywedir i dad Gwyndaf, Emyr deithio o Lydaw a sefydlu mynachlog ar Ynys Enlli yn y 5ed ganrif mewn partneriaeth ag Engan, gor-ŵyr Cunedda Wledig, Brenin Gwynedd.
Cysegrfa Gwyndaf Sant yn Llanwnda oedd y man sanctaidd cyntaf i bererinion aros ar y ffordd o Gaernarfon i Enlli.
Mae'r eglwys bresennol yn adeilad neo-Normanaidd o ganol y 19eg ganrif ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer George Alexander o Lundain i gymryd lle'r eglwys garreg ganoloesol a oedd yn sefyll yma yn gynharach.
