Teyrnas Arall

It’s a long way off but inside it 
There are quite different things going on: 
o ‘The Kingdom’ gan R.S.Thomas

Ysbrydolwyd prosiect Teyrnas Arall gan weledigaeth y bardd R.S. Thomas o Deyrnas Duw fel lle cyfiawnder, gobaith ac iachâd i bawb. Ysbrydolwyd hefyd gan gipolwg ar y deyrnas ffyngau anhygoel a gawsom ar y diwrnod y gwelwyd clafaria zollingari – ffwng cwrel porffor – yn rhoi ei ben i fyny yng ngardd yr eglwys ym Mhenygroes. 

Ar ôl darganfod bod y darn bach hwn o laswellt o amgylch yr eglwys mewn gwirionedd yn enghraifft arbennig o dir cwyr-cap sydd, wedi’i reoli'n briodol, hefyd yn cynhyrchu amrywiaeth o flodau gwyllt bendigedig yn y gwanwyn, rydym wedi datblygu cynllun i greu gwarchodfa natur meicro ac - yn adeilad yr eglwys – gofod eco-gelfyddydol a fydd yn ein helpu i rannu gwybodaeth am gadwraeth ac yn ymateb yn greadigol i'r argyfwng amgylcheddol presennol.