Angladdau
Cysylltwch â ni os hoffech drefnu angladd yn un o’n heglwysi.
Pan fydd anwylyd yn marw a'r teulu yn dymuno trefnu angladd eglwys, neu i weinidog yr Eglwys yng Nghymru weinyddu yn yr amlosgfa neu wrth y bedd, bydd yr ymgymerwr fel arfer yn cysylltu â ni i drafod dyddiadau ac amseroedd posibl.
O bryd i'w gilydd rydym yn cynnal gwasanaeth coffa i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yn ddiweddar.
Cysylltwch â ni os gallwn eich helpu mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â phrofedigaeth.
