Llwybrau
Does dim rhaid i chi gerdded yn bell yma cyn i chi ddod ar draws Llan neu Ffynnon hynafol – lle sanctaidd sy'n gysylltiedig ag un o'r seintiau Celtaidd cynnar. Mae'r tirwedd wedi'u croesi â ffyrdd pererinion hynafol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dwy lwybr bwysig i bererinion wedi cael eu hail-sefydlu. Mae Llwybr Pererinion Gogledd Cymru yn mynd heibio bob un o'n chwe eglwys ac yn arwain o Ffynnon Santes Gwenffrewi i Ynys Enlli. Mae Llwybr Cadfan Sant yn llwybr deheuol newydd i Ynys Enlli sy’n dechrau ar Fae Ceredigion yn Nhywyn.
Yn yr oesoedd canol, roedd Clynnog Fawr, gydag eglwys a ffynnon Beuno Sant, yn gyrchfan bwysig i bererinion, yn enwedig y rhai a oedd yn ceisio iachâd. Byddai hefyd wedi bod yn lle gorffwys a lluniaeth i'r rhai yr oeddynt yn deithio ymlaen dros y drindod hynny o fryniau a elwir Yr Eifl. Y dyddiau hyn mae llawer o bererinion yn dod i Glynnog Fawr bob blwyddyn. Ein nod yw cadw'r drysau ar agor 365 diwrnod y flwyddyn ac mae croeso mawr i chi yma – p'un a ydych chi am ymuno â ni ar gyfer Gweddïau Pererinion neu wasanaeth Sul, neu ddarganfod yr eglwys ar eich pen eich hun.
Rydym hefyd yn croesawu grwpiau – gall fod yn bosibl inni drefnu cyflwyniad i’r eglwys neu daith dywysedig – cysylltwch â ni a byddwn yn gnweud ein gorau glas i helpu.
