Priodasau
Byddem wrth ein boddau i’ch helpu gyda chynllunio eich priodas neu fendith priodas yn un o'n heglwysi.
Gall cyplau briodi yn Beuno Sant Uwch Gwyrfai os yw un neu'r ddau o'r partneriaid yn byw yn yr Ardal Weinidogaeth a / neu'n addoli'n rheolaidd gyda ni neu os oes gan un neu'r ddau o'r partneriaid 'gysylltiad cymwys'.
'Cysylltiad cymwys' yw eich bod wedi cael eich bedyddio neu eich conffirmio yn yr ardal hon, eich bod chi neu riant yn byw neu wedi byw am o leiaf chwe mis yn yr ardal, eich bod chi neu riant wedi mynychu addoliad gyda ni am o leiaf chwe mis, neu fod rhiant / nain / taid wedi priodi yn un o'n heglwysi.
Y ffioedd presennol ar gyfer priodas eglwysig yng Nghymru yw £600-800.
Gweler gwefan yr Eglwys yng Nghymru am fwy o wybodaeth.
