Penygroes
Eglwys Crist, Penygroes LL54 6NH
Adeilad Fictorianaidd yw Eglwys Crist, Penygroes, a godwyd yn y 19fed ganrif i wasanaethu poblogaeth gynyddol y pentref yn dilyn cyfnod sefydlu'r chwareli a diwydiant lleol arall.
Canolbwynt ein prosiect 'Teyrnas Arall' yw Eglwys Crist. Dan ni am agor yr eglwys trwy'r wythnos, gan gynnig lle gweddi hyblyg, canolfan eco-celfyddydau cymunedol a meicro-warchodfa ar gyfer y ffwng cap cwyr prin sydd wedi'u darganfod yng ngardd yr eglwys.
