Llandwrog
Eglwys Twrog Sant, Llandwrog LL54 5SY
Mae Eglwys Sant Twrog yng nghanol pentref stad enghreifftiol Llandwrog rhwng ysgol Llandwrog a thafarn gymunedol, Ty'n Llan.
Cafodd ei adeiladu yn ôl cyfarwyddiadau'r Arglwydd Newborough rhwng 1856-1860 yn lle adeilad canoloesol. Mae'n dirnod lleol oherwydd ei meindwr uchel, a arferai gael ei ddefnyddio fel cymorth llywio gan beilotiaid wrth lanio ym maes awyr Caernarfon gerllaw.
Mae'r adeilad presennol yn anarferol gan ei fod yn debyg i gapel prifysgol neu goleg - gyda'r seddi yn wynebu ei gilydd. Mae ganddi addurniadau a ffenestri gwydr lliw cain ac mae’n boblogaidd ar gyfer priodasau. Gellir clywed ei chlychau filltiroedd i ffwrdd.
