Llanllyfni
Eglwys Rhedyw Sant, Llanllyfni LL54 6SG
Ystyr llythrennol Dyffryn Nantlle yw 'Dyffryn Nant Lleu'. Lleu wrth gwrs yw yn un o arwyr y Mabinogi ac mae'r golygfeydd yma yn ddramatig gyda threftadaeth ddiwylliannol ac hanesyddol gyfoethog.
O'n dau adeilad eglwys yn Nyffryn Nantlle, dywedir mai Llanllyfni wrth ymyl Afon Llyfni yw'r hynaf o'r holl Lannau Cymru. Mae'r eglwys wedi'i chysegru yn enw Rhedyw, sant o'r bedwaredd ganrif a aeth o Gymru i Ffrainc, lle daeth yn arweinydd yr eglwys yng Ngâl.
Uchafbwynt ein blwyddyn eglwysig yma yw’r gwasanaeth Plygain - mae Llanllyfni yn un o'r ychydig leoliadau yng Nghymru heddiw lle mae'r carolau traddodiadol hyn yn dal i gael eu canu wrth olau cyntaf fore Nadolig.
