Iaith a Gwaith

Er gall dysgu ieithoedd mewn dosbarth bod yn ddefnyddiol, dan ni’n credu mai'r unig ffordd i werthfawrogi'n llawn ein diwylliant Cymraeg yw trwy ddysgu ymdrochol mewn cyd-destun Cymraeg ei hiaith.

Rydym wedi treialu lleoliadau 'Iaith a Gwaith' sy'n cynnig cyfleoedd i ddysgu'r iaith ochr yn ochr â gweithio ar brosiect amgylcheddol.  Rydym yn gobeithio ehangu'r cynnig hwn i greu cyfleoedd gwaith a gweinidogaeth eraill i’r rhai efo sgiliau a phrofiad perthnasol sy'n croesawur'r her o ddatblygu sgiliau iaith tra hefyd yn gweithio ar brosiectau sy'n cyfrannu at ffyniant ein cymunedau lleol.