Ailddychmygu Clas Beuno

Yng Nghlynnog Fawr yn Arfon, ar dir a roddwyd iddo am byth gan gefnder i Frenin Gwynedd, sefydlodd Beuno nid yn unig eglwys ond Clas, sefydliad o'r eglwys Geltaidd a oedd yn fynachlog a choleg.  
Nodwedd o Glynnog Fawr dros y canrifoedd yw ail-ymddangosiad cymunedau gweddi, dysgu a chenhadaeth – o Glas Beuno, i fynachlog yr 11eg ganrif, i'r eglwys golegol ganoloesol, i'r ysgol o'r 19eg ganrif ac yna'r coleg hyfforddi gweinidogaeth yr 20fed ganrif. 

Rydym yn mynd ati i ail-ddychmygu'r Clas ar gyfer ein hoes ein hunain ac yn chwilio am bobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad a diddordeb mewn cymuned Gristnogol fwriadol sy'n barod am yr her o ddysgu Cymraeg / helpu eraill i ddysgu'r iaith. 

Cysylltwch â ni os yw hyn yn taro deuddeg i chi. 

Pob newyddion