Addoliad y Sul

Cymuned cymunedau ydym, gyda 6 o adeiladau eglwys.
Dan ni'n addoli efo'n gilydd Sul cyntaf y mis
ac yn ein cymunedau lleol ar Suliau eraill.

Sul Cyntaf y Mis @ 11.00
11.00              Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr

Suliau eraill
09.30              Eglwys Aelhaearn Sant,  Llanaelhaearn 
09.30              St Twrog, Llandwrog (Mis Medi, Mis Tachwedd) 
09.30              St Gwyndaf, Llanwnda (Mis Awst, Mis Hydref, Mis Rhagfyr)
11.00               Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr
11.00               Eglwys Crist, Penygroes (Mis Medi, Mis Tachwedd) 
11.00               St Rhedyw, Llanllyfni (Mis Awst, Mis Hydref, Mis Rhagfyr)

Be sydd ymlaen: Haf 2025

Eglwysi


Cacennau
Aelodau Eglwys Fach
Lilies
Blodau o'r ardd
Dau bobl ar Dre'r Ceiri
Ffwng coral porffor
basged yn cael ei greu

Eglwys Fach

Rhwydwaith plant a theuluoedd yw Eglwys Fach. Dan ni’n cadw mewn cysylltiad ar 
Whatsapp  ac yn cyfarfod yn ein gwasanaeth unedig Sul cyntaf y mis neu ar gyfer dathliad 
arbennig o bryd i'w gilydd.  Hefyd yn gysylltiedig ag Eglwys Fach mae ein tîm Agor y Llyfr – 
sy'n mynd i mewn i 7 ysgol gynradd leol yn rheolaidd i gyflwyno straeon o'r Beibl wedi’i dramateiddio.  

Capel Celf

Mae cyfarfodydd Capel Celf yn cyfuno myfyrdod creadigol gyda gweithgareddau 
crefft neu weithdai a diwrnodau tawel creadigol gyda chrefftwyr ac artistiaid 
proffesiynol. Mae'r gymuned hon hefyd yn darparu eitemau wedi'u gwneud â llaw 
ar gyfer ein siop anrhegion meicro yng Nghlynnog Fawr ac yn trefnu Ffair Nadolig 
gynaliadwy.  

Siaradwyr Newydd

Mae Siaradwyr Newydd yn gymuned sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau 
iaith mewn amgylchedd cefnogol. Eleni rydym yn trefnu 'Geiriau Gwyrdd' – grŵp 
sgwrsio i'r rhai sy'n mwynhau garddio a'r awyr agored. Rydym hefyd yn trefnu 
cyfarfodydd a digwyddiadau eraill ar gyfer siaradwyr newydd – gan gynnwys 
pererindod Eben Fardd a Gwasanaeth Carolau i Ddysgwyr. 

Gwyrddfoddolwyr

Mae'r Gwyrddfoddolwyr yn gymuned o wirfoddolwyr amgylcheddol, sy'n cyfarfod 
ar ddydd Llun yn Eglwys Llanwnda ar hyn o bryd. Dan ni wrth ein boddau yn dathlu 
ac yn gofalu am y byd o'n cwmpas a cheisio rheoli ein mynwentydd a mannau 
gwyrdd eraill mewn ffordd sy'n galluogi ffyniant pobl a natur.  

Cysylltu